| ||||||||||||||||||||
Croeso i'r Wiciadur Cymraeg, prosiect cydweithredol i greu geiriadur amlieithog a'r cynnwys i gyd yn rhad ac am ddim.
Yn wreiddiol, nod Wiciadur oedd i fod yn gydymaith geiriol i Wicipedia, y prosiect gwyddoniadurol, a'n nod yw fod Wiciadur yn tyfu i fod yn llawer mwy na geiriadur cyffredin. Ein gweledigaeth yw fod Wiciadur yn cynnwys thesawrws, odliadur, llyfrau ymadrodd, ystadegau ieithyddol a mynegai cynhwysfawr. Anelwn at gynnwys, nid yn unig diffiniad y gair, ond digon o wybodaeth i chi wir ddeall ystyr y gair. O ganlyniad caiff etymolegau, ynganiadau, dyfyniadau engreifftiol, cyfystyron, gwrthwynebeiriau a chyfeithiadau eu cynnwys.
Wici ydy'r Wiciadur, sy'n meddwl y gallwch chi ei olygu, ac amddifynnir yr holl gynnwys gan drwydded-ddeuol y Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License yn ogystal a'r Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU. Cyn i chi ddechrau cyfrannu, efallai yr hoffech ddarllen rhai o'n tudalennau Cymorth, a chofiwch ein bod yn gwneud pethau ychydig yn wahanol i wicis eraill. Yn benodol, mae gennym gonfensiynnau pendant ynglyn â sut i osod cofnod ar dudalen. Dysgwch sut i ddechrau tudalen newydd, sut i olygu cofnodion, arbrofwch yn y pwll tywod ac ymwelwch â Phorth y Gymuned i ddarganfod sut y gallwch chi gyfrannu yn natblygiad y geiriadur hwn. |
| |||||||||||||||||||
![]() Lladin: a A b B c C d D e E f F g G h H i I j J k K l L m M n N o O p P q Q r R s S t T u U v V w W x X y Y z Z Gair ar hap • Cofnodion newydd
| ||||||||||||||||||||
![]()
|
This article is issued from Wiktionary. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.