Ieithoedd Norwy

Norwyeg yw iaith genedlaethol y Norwyaid a phrif iaith Norwy. Cydnabyddir dwy ffurf ar Norwyeg, Bokmål a Nynorsk, yn swyddogol, yn ogystal â'r ieithoedd Sami yng ngogledd y wlad. Ymhlith yr ieithoedd lleiafrifol eraill mae Cfen a Romani.

Ieithoedd Norwy
Iaith/Ieithoedd swyddogol Norwyeg (Bokmål a Nynorsk)
Sami
Iaith/Ieithoedd lleiafrifol Cfen
Romani
Romanes
Prif iaith/ieithoedd tramor Saesneg (>80%)
Arwyddiaith/Arwyddieithoedd Iaith Arwyddo Norwy

Norwyeg

Norseg ac Hen Norwyeg

Tarddai'r iaith Norwyeg o Hen Norseg, iaith Germanaidd a siaredid ar draws Llychlyn a gwladfeydd y Llychlynwyr ar draws arfordiroedd gogledd Ewrop, Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, ac ar lannau afonydd dwyrain Ewrop. Cyn-Norseg ydy'r enw a roddir ar hen iaith gyffredin yr ieithoedd Germanaidd Gogleddol: Norwyeg, Daneg, Ffaröeg, Islandeg, a Swedeg, a'r ieithoedd meirw Norn a Norseg yr Ynys Las). Trawsnewidiodd Hen Norseg fel y'i siaredid yn y wlad a elwir heddiw Norwy i'r Hen Norwyeg, sydd yn ôl llawysgrifau ac arysgrifau rwnig o'r cyfnod yn debyg i iaith lenyddol y sagâu a genid yng Ngwlad yr Iâ.

Arhosai Hen Norwyeg yn sefydlog nes canol y 14g o ran ei ffonoleg, gramadeg, a geirfa. Newidiodd yr iaith yn sylweddol yn y canrifoedd wedi hynny, o bosib oherwydd y gostyngiad yn y boblogaeth o ganlyniad i'r Pla Du a thrwy gysylltiadau masnachol â'r Gynghrair Hanseataidd. Bu farw'r hen ffurf lafar ar yr iaith a blodeuai sawl gwahanol dafodiaith, ac ymwahanodd Norwyeg lafar oddi ar y ffurf lenyddol yn sylweddol.

O ganlyniad i'r undeb rhwng Norwy a Denmarc, defnyddiwyd Daneg gan swyddogion y llywodraeth, a dyrchafwyd Daneg yn iaith yr eglwys yn sgil y Diwygiad Protestannaidd. Wedi i Christian IV gael ei goroni'n frenin Denmarc a Norwy, mabwysiadwyd Daneg yn iaith y gyfraith yn Norwy.

Dano-Norwyeg a'r frwydr ieithyddol

Er i Norwy uno â Sweden yn 1814, parhaodd Daneg yn iaith ysgrifenedig Norwy. Rhoddir yr enw Dano-Norwyeg ar yr iaith gyffredin a ddatblygodd ymhlith uchelwyr yn ninasoedd Norwy yn y 18g a barhaodd trwy gydol y 19g. Roedd yr iaith honno mwy neu lai yn unfath â'r Ddaneg ond ynganiad ei geirfa wedi addasu at yr acen Norwyaidd. Tafodieithoedd Norwyeg lleol oedd iaith y werin ar draws Norwy.

Yn sgil twf cenedlaetholdeb Rhamantaidd a'r deffroad diwylliannol yn y 19g, cychwynnwyd dadl ynglŷn ag iaith genedlaethol Norwy. Cytunodd llenorion a ffigurau diwylliannol eraill y wlad bod yn rhaid fabwysiadu ffurf ysgrifenedig ar Norwyeg a oedd yn gwrthod tra-arglwyddiaeth y Ddaneg. Rhennid y frwydr ieithyddol rhwng y rhai oedd yn dadlau dros greu iaith genedlaethol newydd i'w mabwysiadu ar unwaith, a'r rhai oedd o blaid datblygu Norwyeg ysgrifenedig yn raddol ac yn naturiol. Y prif ladmerydd dros ffurfio safon lenyddol o'r newydd oedd yr ieithydd Ivar Aasen. Cynhyrchodd Aasen Landsmaal ("iaith gwlad"), iaith ysgrifenedig ar sail tafodieithoedd hynafaidd gorllewin Norwy. Ei nod oedd creu ffurf ysgrifenedig a oedd yn debycach i iaith lafar gwlad ac felly'n addas i hyrwyddo llythrennedd, ac o ganlyniad addysg a thaliadau democrataidd, ymhlith y werin. Ar ochr arall y ddadl, rhoddwyd yr enw Riksmaal ("iaith genedlaethol") ar ffurf ysgrifenedig oedd yn debycach i Ddano-Norwyeg ac yn adlewyrchu iaith lafar yr uchelwyr. Dadleuodd yr addysgwr Knud Knudsen dros ddatblygu Norwyeg ysgrifenedig yn raddol ar sail ynganiadau'r dosbarthiadau uchaf, a Riksmaal oedd y ffurf gynnar ar bokmål ("iaith y llyfr"). Dilynwyd esiampl Knudsen gan y mwyafrif o lenorion Norwyaidd, gan gynnwys Bjørnstjerne Bjørnson ac Henrik Ibsen, ac mae eu gweithiau hwy yn debycach o lawer i Ddaneg nac i Norwyeg modern. Ymhlith y rhai i gefnogi achos Landsmaal oedd Aasmund Olafsson Vinje ac Arne Garborg, a mabwysiadwyd y ffurf honno yn iaith lenyddol a elwir yn ddiweddarach yn nynorsk ("Norwyeg newydd").[1]

Yn 1885, pleidleisiodd y Storting, senedd Norwy, dros roddi statws cyfartal i Riksmaal a Landsmaal mewn dogfennau llywodraethol a defnyddiau swyddogol eraill. Yn 1892, rhoddwyd hawl i bob ardal ysgol yn Norwy benderfynu pa ffurf ar yr iaith i'w defnyddio yn yr ysgol leol.

Bokmål a Nynorsk

Yn ystod hanner cyntaf yr 20g, yn sgil annibyniaeth Norwy yn 1905, canolbwyntiodd polisi swyddogol y llywodraethau Rhyddfrydol a Llafur ar uno nynorsk a bokmål yn un ffurf a elwir samnorsk ("Norwyeg cyffredin"). Er diwygiadau yn 1907, 1917, a 1938 i hyrwyddo samnorsk, gwelwyd y ffurf honno yn elyn cyffredin gan siaradwyr ac ysgrifenwyr nynorsk a bokmål fel ei gilydd. Yn ail hanner yr 20g, dilynwyd polisi iaith gwahanol gan y llywodraeth, ac yn 1959 a 1981 dad-wnaethpwyd rhai o ddiwygiadau sillafu a gramadeg y deddfau cynt. Daeth samnorsk felly yn gywaith di-angen, a dysgir plant ysgol i ddarllen testunau yn y ddwy ffurf ieithyddol arall. Sefydlwyd cyngor iaith dros y Norwyeg, Norsk Språkråd, yn 1972.[1]

Ieithoedd Sami

Siaredir ieithoedd Sami gan y bobl Sami yn y Lapdir. Defnyddir Sami gogleddol yn iaith weinyddol mewn sawl bwrdeistref yn Finnmark.

Cyfeiriadau

  1. Jan Sjåvik, Historical Dictionary of Norway (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2008), tt. 123–25.
This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.