Florida

Un o daleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America yw Talaith Florida neu Florida, neu yn Gymraeg Fflorida,[1] gorynys fawr rhwng y Cefnfor Iwerydd a'r Gwlff Mecsico. Fe enwodd Juan Ponce de León y dalaith yn 1513. Ym 1763 bu Prydain yn ffeirio Cuba am Florida wedi i'r Prydeinwyr meddianu dinas La Habana/Hafana. Symudwyd y boblogaeth Sbaeneg i Guba wedyn. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 18,801,310.[2]

Florida
Arwyddair In God We Trust 
Math Taleithiau'r Unol Daleithiau 
Enwyd ar ôl Pasg 
En-us-Florida.ogg 
Prifddinas Tallahassee 
Poblogaeth 20,271,272 
Sefydlwyd
  • 3 Mawrth 1845 
Pennaeth llywodraeth Ron DeSantis 
Cylchfa amser UTC−06:00, Eastern Time Zone, Cylchfa Amser Canolog, America/New_York 
Gefeilldref/i Wakayama 
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol contiguous United States, South Atlantic states 
Sir Unol Daleithiau America 
Gwlad Unol Daleithiau America
Arwynebedd 170,304 km² 
Uwch y môr 30 metr 
Gerllaw Gwlff Mecsico, Cefnfor yr Iwerydd, Florida Strait 
Yn ffinio gyda Georgia, Alabama 
Cyfesurynnau 28.1°N 81.6°W 
US-FL 
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Government of Florida 
Corff deddfwriaethol Florida Legislature 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Florida 
Pennaeth y Llywodraeth Ron DeSantis 

Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwâr (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.

Roedd Florida’r 27ain o’r taleithiau i ymuno â’r Unol Daleithiau ym 1845. Prifddinas y dalaith yw Tallahassee.

O’r 19g ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20g roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. Agorwyd Disney World ym 1971. Mae ganddo maint o 30,500 o aceri, ac yn denu tua 46 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol.[3]

Mae Canolfan Ofod Kennedy wedi bod yn allweddol i gyflawniadau’r Unol Daleithiau yn y maes Gofod ac hefyd yn denu twristiaid.

Mae gan Florida gorsydd mawr. Yr un mwyaf yw Cors Everglades. Rhennir un arall, Cors Okefenokee, efo Georgia.

Dinasoedd Florida

1Jacksonville813,518
2Miami399,457
3Tampa345,556
4St. Petersburg248,098
5Orlando235,860
6Tallahassee172,574
7Fort Lauderdale184,892
8Melbourne76,068
9Pensacola76,068
10Key West25,478
11Lake Wales12,071

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, [Florida].
  2. "Compendium of the Ninth Census:Population, with race" (PDF). US Census Bureau. p. 14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 20, 2010. Cyrchwyd Rhagfyr 3, 2007.
  3. Gwefan history.com

Dolenni allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am Florida. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.