Elisabeth I, brenhines Lloegr

Bu Elisabeth I (7 Medi 1533 - 24 Mawrth 1603) yn frenhines Lloegr o 17 Tachwedd 1558 hyd at ei marwolaeth. Ei llysenw Cymraeg oedd 'Sidanes' (mae 'yr hen Sidanes' yn llysenw llai parchus am Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig). Roedd hi'n ferch i Harri VIII, brenin Lloegr a'i wraig Ann Boleyn ac yn chwaer i Edward VI ac i Mari I. Roedd teyrnasiad Elisabeth, Oes Elisabeth fel y'i gelwir, yn gyfnod cythryblus. Roedd yna gyffro ac anghytuno crefyddol, a llygaid brenin Ffrainc a brenin Sbaen ar deyrnas Lloegr ac yr oedd Elisabeth yn ddibriod ac yn ddietifedd.

Elisabeth I, brenhines Lloegr
Ganwyd 7 Medi 1533 
Palas Placentia 
Bu farw 24 Mawrth 1603 (in Julian calendar)  (69 oed)
Palas Richmond 
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr 
Tad Harri VIII 
Mam Ann Boleyn 
Llinach Tuduriaid 
Llofnod

Roedd gan Elisabeth lawer o gynghorwyr cyfrinachol, rhai ohonynt yn Gymry Cymraeg e.e. Blanche Parry a William Cecil,[1] - ac eraill fel Philip Sidney, Robert Devereux, Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a Francis Walsingham.

Rhagflaenydd:
Mari I
Brenhines Lloegr
17 Tachwedd 155824 Mawrth 1603
Olynydd:
Iago VI & I

Cyfeiriadau

  1. Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 8 Ionawr 2015
This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.