Coronafirws

Grŵp o firysau a all achosi heintiau mewn mamaliaid ac adar yw'r coronafirysau, a ddarganfuwyd yn y 1960au.[1] Mewn bodau dynol, mae'n achosi problemau anadlu, a cheir amrywiadau negis SARS a MERS sy'n beryg bywyd, a mathau eraill sy'n eitha diniwedd ac sy'n debycach i'r ffliw. Mewn gwartheg a moch gall y firws achosi dolur rhydd, tra mewn ieir gall achosi clefyd anadlol. Yn 2020 nid oedd brechlynnau na chyffuriau gwrthfeirysol a oedd yn cael eu cymeradwyo i atal y firws rhag ymledu, na thriniaeth ar gyfer y claf.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol heterotypic synonym, enw cyffredin 
Math firws RNA 
Dynodwyr
Thesawrws y BNCF 56238&Nbsp;
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am yr epidemig cyfoess yn Tsieina, gweler yr erthygl Epidemig Coronafirws 2019–20 yn Wuhan, Tsieina. Am y firws penodol sy'n achosi'r achos hwn, gweler Coronafirws Novel (2019-nCoV).

Mae'r coronafirws yn feirws o fewn yr isdeulu Orthocoronavirinae yn y teulu Coronaviridae, o fewn urdd y Nidovirales.[2][3] Mae'r coronafirysau'n 'amlennol', ac mae ganddyn nhw positive-sense single-stranded RNA genome a chymesuredd heligal. Hyd y gwyddys, dyma'r firws-RNA mwya: 26 i 32 kbp (kilo base pair).

Mae'r enw 'Coronafirws' yn fenthyciad o'r Saesneg, "coronavirus" sy'n deillio o'r gair Lladin 'corona' sef 'coron' yn Gymraeg, ac sy'n cyfeirio at ymddangosiad nodweddiadol y gronynnau firws (virions): mae ganddyn nhw ymyl sy'n atgoffa rhywun o goron frenhinol neu'r corona solar.

Mewn bodau dynol

Credir bod coronafirysau yn achosi canran sylweddol o'r holl annwyd cyffredin mewn oedolion a phlant. Mae coronafirysau yn achosi symptomau trwm e.e. twymyn, adenoidau chwyddedig yn y gwddf, a hynny yn bennaf yn nhymor y gaeaf a dechrau'r gwanwyn.[4] Gall coronafirysau achosi niwmonia, naill ai niwmonia firaol uniongyrchol neu niwmonia bacteriol eilaidd a gallant hefyd achosi broncitis, firaol neu facteriol.[5]

Mae gan y coronafirws dynol a ddarganfuwyd yn 2003, sef y SARS-CoV sy'n achosi syndrom anadlol acíwt difrifol (SARS), bathogenesis unigryw oherwydd ei fod yn achosi heintiau'r llwybr anadlol uchaf ac isaf.[5]

Yn 2020, roedd 7 math (neu 'strain') o goronofirysau'n bodoli:

  1. HCoV-229E
  2. HCoV-OC43
  3. SARS-CoV
  4. HCoV-NL63
  5. Human coronavirus HKU1
  6. MERS-CoV, a adnabyddwyd hefyd gyda'r enwau novel coronavirus 2012 a HCoV-EMC.
  7. Novel coronavirus (2019-nCoV),[6][7] a adnabyddir hefyd gyda'r enw "Niwmonia Wuhan" neu "Coronofirws Wuha".[8] (mae 'Novel' yma'n enw dros dro, ac yn cyfeirio at y ffaith mai firws newydd ei ddarganfod yw hwn.)[7]

Cyfeiriadau

  1. "Coronavirus: Common Symptoms, Preventive Measures, & How to Diagnose It". Caringly Yours (yn Saesneg). 2020-01-28. Cyrchwyd 2020-01-28.
  2. de Groot RJ, Baker SC, Baric R, Enjuanes L, Gorbalenya AE, Holmes KV, Perlman S, Poon L, Rottier PJ, Talbot PJ, Woo PC, Ziebuhr J (2011). "Family Coronaviridae". In AMQ King, E Lefkowitz, MJ Adams, EB Carstens (gol.). Ninth Report of the International Committee on Taxonomy of Viruses. Elsevier, Oxford. pp. 806–828. ISBN 978-0-12-384684-6.
  3. International Committee on Taxonomy of Viruses (24 Awst 2010). "ICTV Master Species List 2009 – v10" (xls).
  4. "Prevalence and genetic diversity analysis of human coronaviruses among cross-border children" (yn En). Virology Journal 14 (1): 230. November 2017. doi:10.1186/s12985-017-0896-0. PMC 5700739. PMID 29166910. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5700739.
  5. "Healthcare-associated atypical pneumonia". Seminars in Respiratory and Critical Care Medicine 30 (1): 67–85. Chwefror 2009. doi:10.1055/s-0028-1119811. PMID 19199189.
  6. "Laboratory testing of human suspected cases of novel coronavirus (nCoV) infection. Interim guidance, 10 Ionawr 2020" (PDF). Archifwyd o y gwreiddiol (PDF) ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 14 Ionawr 2020. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
  7. "Novel Coronavirus 2019, Wuhan, China | CDC". www.cdc.gov. 23 Ionawr 2020. Archifwyd o y gwreiddiol ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 23 Ionawr 2020. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
  8. "Pneumonia of unknown cause – China". World Health Organization. 5 Ionawr 2020. Archifwyd o y gwreiddiol ar 7 Ionawr 2020. Cyrchwyd 23 Ionawr 2020. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.