Blanche Parry

Un o gyfeillion mynwesol, Confidante, Chief Gentlewoman a Cheidwad Tlysau Elisabeth I, brenhines Lloegr, oedd Blanche Parry neu Blanche ap Parry [1] (1507/8 – 12 Chwefror 1590) a darddai o deulu ardal y gororau. Bu'n gyfaill i'r frenhines am gyfnod o 56 mlynedd. Eglwys St Faith, Bacton, Lloegr oedd eglwys teulu Blanche ac yno, yn 82 oed, y'i claddwyd. Siaradai Gymraeg yn rhugl: hen daid Blanche oedd Harri Ddu ac roedd Syr William Cecil a John Dee yn gefndryd iddi.

Blanche Parry
Paentiad o Blanche a wnaed yn yr 16g; fe'i cedwir yn Nhŷ Tredegar.
Ganwyd 1507 
Bacton 
Bu farw Chwefror 1590, 12 Chwefror 1590 
Llundain 
Dinasyddiaeth Cymru
Galwedigaeth gweithiwr y llys, boneddiges breswyl 
Swydd Lady of the Bedchamber 

Ceir peth tystiolaeth iddi ddysgu hwiangerddi ac elfennau Cymraeg i'r Frenhines Elisabeth.[2]

Magwraeth a theulu

Cafodd ei geni yn Bacton, Swydd Henffordd, yn ferch i Henry Miles ac Alis (a oedd yn ferch i Simon Milbo(u)rne). Saif Bacton yn Nyffryn y Dŵr, a elwir bellach yn The Golden Valley - camddealltwriaeth yn yr Oesoedd Canol mai 'aur' (d'ore) oedd ystyr 'Afon Dŵr' neu River Dore'.

Roedd ei thad yn stiward Abaty Dore, yn siryf Swydd Henffordd, ac yn perthyn i deulu Iarll Penfro (teulu Herbertiaid o Raglan). Bu ei thad farw pan oedd yn 16 oed ac ail briododd ei mam. Mae'n ddigon posibl i Blanche gael ei haddysgu gan leianod Urdd Awgwstin Lleiandy Aconbury.[3]

Hen daid Blanche oedd Harri Ddu, y canodd Guto'r Glyn farwnad iddo:

Dyrnod hoedl drwy Went ydoedd,
Dwyn Harri Ddu (dyn hardd oedd).

Sonir mewn naw cerdd wahanol am ei theulu: pump gan Guto'r Glyn, a cherdd yr un gan Gwilym Tew, Howel Dafi, Huw Cae Llwyd a Lewys Morgannwg.[4]

Symud i Lundain

Yn ifanc iawn, ac oherwydd ei chysylltiad gyda Blanche Herbert (Lady Troy), a oedd yn athrawes neu'n 'feistres' i blant Harri VIII: sef Elizabeth I ac Edward (a ddaeth yn Edward VI), ymwelodd â Llundain. Roedd yr Arglwyddes Troy yn trigo gyda'i theulu yn 'Troy House', Sir Fynwy ac, fel Parry, roedd yn gwbwl ddwyieithog. Roedd Lewys Morgannwg yn gyfaill i'r teulu a disgrifia hi mewn cywydd fel 'Arglwyddes breninesau'.[5] Ymddengys, felly iddi gael cryn ddylanwad ar Blanche Parry, a ddaeth yn ddiweddarach yn athrawes (neu feistres) ar Elizabeth I. Yn 1552 dychwelodd i Sir Fynwy gan adael Blanche Parry (gyda Kate Ashley) yn gyfrifol am blant y brenin.

Yr ail gysylltiad gyda Llundain a theulu brenhinol y Tuduriaid oed Syr William Cecil, barwn Burghley, cefnder iddi.

Marwolaeth

Cafodd ei chladdu yn Eglwys St. Margaret, ger Abaty San Steffan ond yn Eglwys Sant Faith y codwyd y prif gofeb iddi, sy hefyd yn cynnwys y cerflun cyntaf o Elisabeth I (y Gloriana). Yn yr eglwys hon y canfyddwyd fod hen liain yr allor yn rhan o wisg Elisabeth I - yr unig ddilledyn sydd wedi goroesi. Dengys hyn y cysylltiad cryf rhwng Blanche ac Elizabeth.

Cerflun Eglwys Bacton, Swydd Henffordd

Sgwennwyd y beddargraff gan Blanche ei hun rywbryd cyn Tachwedd 1578. Ceir beddargraff arall yn Eglwys St Margaret, Llundain, lle'i claddwyd.

Gweler hefyd

  • Llyn Syfaddan - ceir llu o ddogfennau am drosglwyddiad y llyn, yn anrheg gan Elisabeth I i Blanche Parry.

Cyfeiriadau

  1. blancheparry.com; adalwyd 12 Chwefror 2017.
  2. http://www.tudorplace.com.ar/Bios/BlancheParry.htm
  3. Richardson 2007, tud. 32–34
  4. Richardson 2007, tud. 157ndash;17, 20, 40–41, 167
  5. blancheparry.com; adalwyd 12 Chwefror 2018.

Llyfryddiaeth

  • Ballard, George: Memoirs of several ladies of Great Britain..., 1752.
  • Bradford, Charles Angell: Blanche Parry, Queen Elizabeth's Gentlewoman, pamffled 1935.
  • Richardson, Ruth Elizabeth: Mistress Blanche, Queen Elizabeth I's Confidante , Logaston Press, 2007.
  • Borman, Tracy: Elizabeth's Women; The Hidden Story of the Virgin Queen, Jonathan Cape, Llundain, 2009.

Dolenni allanol

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.