Betty Paoli

Awdures o Awstria-Hwngari oedd Betty Paoli (30 Rhagfyr 1814 - 5 Gorffennaf 1894) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, bardd, cyfieithydd a newyddiadurwr.

Betty Paoli
Ganwyd 30 Rhagfyr 1814 
Fienna 
Bu farw 5 Gorffennaf 1894  (79 oed)
Baden bei Wien 
Dinasyddiaeth Awstria
Galwedigaeth awdur, ysgrifennwr, newyddiadurwr, cyfieithydd, bardd 

Bywyd Cynnar

Ganwyd Barbara 'Babette' Glück yn Fienna, Awstria i Theresia Glück a oedd newydd briodi meddyg militaraidd yn y rhengoedd uwch o'r enw Glück. Roedd tad naturiol Barbara yn fonheddwr Hwngaraidd amlwg. Daeth Theresia i fod yn wraig weddw yn fuan iawn ac fe'i gadawyd gydag etifeddiaeth gweddol fach - etifeddiaeth a ddiflannodd yn bur sydyn. Symudodd y fam a'r ferch i sawl lle oherwydd tueddiadau chwit-chwat Theresia. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth yn ferch ifanc gan ddewis y soned fel ffurf fwyaf cyffredin i fynegi ei hun. Dywedai mai barddoniaeth oedd yr unig beth oedd yn adfer ei gobaith a'i fod yn rhoi dewrder iddi barhau i fyw. [1]

Addysg a Gyrfa

Addysgu ei hun wnaeth Babette i bob pwrpas a daeth yn ddarllenwr brwd. Gadawodd ei mam hi yn Hwngari gyda theulu gramadegwr o'r enw Schmidt, a fu'n ei thiwtora mewn ieithoedd modern. Daeth yn hyddysg yn Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Yma y penderfynodd y byddai'n ennill ei bywoliaeth ei hun. Gweithiodd Babette fel gwniadwraig er mwyn ei chadw hi a'i mam hyd nes iddi dderbyn swydd fel athrawes gartref ar draws y ffin yng Ngwlad Pwyl Rwsaidd. Yn 1830 neu 1831 gadawodd Fienna gyda'i mam. Ond roedd ar Theresia hiraeth am ei chartref ac yn y diwedd penderfynasant ddychwelyd gan groesi'r ffin i Galisia Awstraidd. Cafodd Theresia ei tharo'n wael ar y daith a bu farw mewn pentref Galisaidd. Arhosodd Babette Glück yn Galisia nes yr oedd yn 20, gan weithio i lenwi'r bylchau yn ei haddysg. Astudiodd Saesneg ac ymgyfarwyddodd gyda gweithiau yr Arglwydd Byron. Dychwelodd i Fienna yng ngwanwyn 1935 lle dechreuodd gyfansoddi o ddifri. Yn 1949 ymgymerodd â swydd dros dro fel cydymdeithes i Iarlles Bünau yn Daln ger Dresden. Yn ystod y cyfnod hwn bu ar ymweliad tri mis â Ffrainc lle bu'n gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun ar gyfer y Neue Free Presse er mwyn cynnal ei hun. Yn dilyn hyn, fe'i cyflogwyd hi gan Madame Bagréef-Speranski fel cydymdeithes. Ar yr un pryd, daeth yn adolygydd theatr ar gyfer yr Hofberg, gan adolygu arddangosiadau celf misol. Parhaodd i fod yn adolygydd celf a theatr nes 1860, a bu hefyd yn gyfrifol am ddylanwadu ar yrfaoedd actorion megis Josef Lewinsky.

Yn ystod yr 1830au roedd ei cherddi yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion cymdeithasol. Mabwysiadodd y ffugenw llenyddol 'Paoli' yn wreiddiol ar gyfer cyhoeddi'r stori fer 'Clary ' yn Wiener Zeitschrift gan Friedeich Witthauer. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau rhwng yr 1840au a throad y ganrif gyda nifer o'i gweithiau yn canolbwyntio ar faterion merched; ysgrifennodd draethodau am ei phrofiodau hi o gasineb tuag at ferched er mwyn dadansoddi materion cymdeithasol ehangach. Cyfansoddoai gerddi yn ogystal lle byddai'n gwyrdroi metafforau oedd yn benodol yn perthyn i un rhyw. Canmolwyd ei barddoniaeth yn fawr gan Alfred Meissner a Moritz Hartmann. Yn ddiwerddarach, mabwysiadodd ffugenw arall - Branitz - a ddefnyddid ganddi er mwyn cyfieithu dramâu o Ffrangeg. Yn 1855 symudodd i fyw gyda Ida von Fleischl-Marxow; roedd y teulu Fleischl yn agos iawn ati ac fe'i mabwysiadwyd yn rhan o'r teulu. Parhaodd i fyw gyda hwy nes ei marwolaeth yn 1894.[2]

Cyfeiriadau

  1. Haag, John. "Paoli, Betty (1814–1894) – Dictionary definition of Paoli, Betty (1814–1894) | Encyclopedia.com: FREE online dictionary". www.encyclopedia.com (yn Saesneg). encyclopedia.com. Cyrchwyd 3 Awst 2017.
  2. Rose, Ferrel (1998). Major Figures of Nineteenth-Century Austrian Literature: Betty Paoli. Riverside, California: Ariadne Press.
This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.