Tyndyrn

Pentref a chymuned ar lan orllewinol Afon Gwy yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, yw Tyndyrn (Saesneg: Tintern). Mae'n gorwedd bron ar y ffin â Lloegr, tua 5 milltir i'r gogledd o dref Cas-gwent. Mae'n lle sy'n boblogaidd iawn gan dwristiaid, sy'n cael eu denu yno i weld adfeilion rhamantaidd Abaty Tyndyrn, sy'n gorwedd ger y pentref.

Tyndyrn
Math pentref, cymuned 
Daearyddiaeth
Sir Sir Fynwy 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau 51.6968°N 2.6814°W 
Cod SYG W04000805 
Cod OS SO530000 
Cod post NP16 
Gwleidyddiaeth
AC/au Nick Ramsay (Ceidwadwyr)
AS/au David Davies (Ceidwadwr)

Cynrychiolir Tyndyrn yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Davies (Ceidwadwr).

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.