Ton ddisgyrchol

Yn ffiseg, tonnau disgyrchol yw crychiadau yng nghrymedd gofod-amser sy'n lledaenu fel tonnau, yn teithio allan o'r ffynhonnell. Cawsant eu darogan yn 1916 gan Albert Einstein ar sail ei ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol, mewn theori mae tonnau disgyrchol yn cludo egni fel "pelydriad disgyrchol". Ar 11 Chwefror 2016 cyhoeddodd y grŵp LIGO, Virgo interferometer a GEO600 eu bônt wedi darganfod prawf o fodolaeth tonnau disgyrchol ac enwyd y signal yn "GW150914".

Mae'n bosib y gall ffynonellau o donnau disgyrchol gynnwys systemau sêr deuaidd wedi eu gwneud o gorachod gwynion, sêr niwtron, neu dyllau du. Mae bodolaeth tonnau disgyrchol yn ganlyniad posibl i anghyfnewidioldeb Lorentz ym mherthnasedd cyffredinol am ei fod yn cyflwyno'r syniad o gyfyngiad ar gyflymder lledu o gydadweithiau ffisegol. All tonnau disgyrchol ddim bodoli mewn damcaniaeth Newtonaidd o ddisgyrchiant, lle mae cydadweithiau ffisegol yn lledu ar gyflymder anfeidrol.

Cyn darganfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol roedd yna dystiolaeth anuniongyrchol o'u bodolaeth. Er enghraifft, gwobrwywyd Gwobr Ffiseg Nobel 1993 am fesuriadau o system ddeuaidd Hulse–Taylor oedd yn awgrymu fod tonnau disgyrchol yn fwy na chysyniad damcaniaethol. Ar hyn o bryd mae sawl datgelydd tonnau disgyrchol yn cael eu hadeiladu neu yn gweithredu, fel yr Advanced LIGO a gychwynnodd ei arsylwadau ym Medi 2015.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.