Sylvia Plath

Bardd, nofelydd ac ysgrifennydd straeon byrion o'r Unol Daleithiau oedd Sylvia Plath (27 Hydref 193211 Chwefror 1963). Fe'i ganwyd yn Boston, Massachusetts, ac astudiodd yng Ngholeg Smith a Choleg Newnham, Caergrawnt cyn derbyn cydnabyddiaeth fel bardd a llenor proffesiynol.

Sylvia Plath
Ffugenw Victoria Lucas 
Ganwyd 27 Hydref 1932 
Boston 
Bu farw 11 Chwefror 1963  (30 oed)
Achos: carbon monoxide poisoning 
Llundain 
Man preswyl Boston, Llundain 
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America 
Alma mater
  • Prifysgol Smith, Massachusetts 
Galwedigaeth bardd, ysgrifennwr, nofelydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur plant 
Cyflogwr
  • Prifysgol Smith, Massachusetts 
Adnabyddus am The Bell Jar, Ariel, The Colossus 
Arddull confessional poetry 
Tad Otto Plath 
Mam Aurelia Plath 
Priod Ted Hughes 
Plant Frieda Hughes, Nicholas Hughes 
Gwobr/au Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Glascock Prize, Ysgoloriaethau Fulbright 
Gwefan http://sylviaplath.info 
Llofnod

Priododd y bardd Ted Hughes, yn 1956 a bu'r ddau'n byw yn yr Unol Daleithiau i ddechrau ac yna yn Lloegr. Cawsant ddau o blant gyda'i gilydd, Frieda a Nicholas. Dioddefai Plath o iselder am gyfnodau helaeth o'i bywyd fel oedolyn ac yn 1963 cymerodd ei bywyd ei hun. Mae ei bywyd a'i marwolaeth, ynghyd â'i hysgrifennu a'i dylanwad yn parhau i fod yn ddadleuol

Cydnabyddir Plath am ddatblygu genre o farddoniaeth gyffesol ac mae hi fwyaf enwog am ei dwy gyfrol gyhoeddedig, The Colossus and Other Poems ac Ariel. Yn 1982, enillodd Wobr Pulitzer ar ôl ei marwolaeth, am The Collected Poems. Roedd hi hefyd wedi ysgrifennu The Bell Jar, nofel rhannol-hunangofiannol a gyhoeddwyd ychydig cyn ei marwolaeth.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.