Llên Lloegr yn y 18fed ganrif

Yn gyffredinol, rhennir llên Lloegr yn y 18fed ganrif yn ddau brif gyfnod: yr oes Awgwstaidd, sydd yn barhad o'r newydd-glasuriaeth a gychwynnwyd gan lenorion yr Adferiad yn ail hanner y ganrif gynt; a dechrau'r oes Ramantaidd yn y 1790au, a adeiladodd ar draddodiadau'r beirdd natur a beirdd y fynwent a flodeuasant yng nghanol y ganrif.

Pasiwyd Statud Ann, neu'r Ddeddf Hawlfraint, gan Senedd Prydain Fawr yn 1710 i ddarparu hawlfraint i'r awdur dros ei waith. Pasiwyd y Ddeddf Drwyddedu yn 1737 gan roddi i'r Arglwydd Siambrlen yr hawl i sensro pob drama a berfformiwyd yn y wlad.

Mae rhan fwyaf y 18g yn cyd-daro â'r oes Sioraidd, sef teyrnasiadau'r brenhinoedd Hanoferaidd Siôr I (1714–27), Siôr II, (1727–60), a Siôr III. Er defnyddir yr ansoddair "Sioraidd" i gyfeirio at bensaernïaeth a dodrefn, hanes cymdeithasol, a gwleidyddiaeth y cyfnod hwn, yn anaml fe'i defnyddir i ddisgrifio llenyddiaeth, o bosib er mwyn osgoi cymysgu â'r beirdd Sioraidd, criw o feirdd a flodeuai yn Lloegr yn y 1910au.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.