Jimmy Wales

Entrepreneur Americanaidd yw Jimmy Donal "Jimbo" Wales ( /ˈɪmi ˈdnəl ˈwlz /; ganwyd 7 Awst 1966). Fe yw cyd-sylfaenydd a hyrwyddwyr y gwyddoniadur dielw arlein Wikipedia a'r cwmni lletya gwe di-elw Wikia.

Jimmy Wales
Llais Jimmy Wales voice.ogg 
Ganwyd Jimmy Donal Wales 
7 Awst 1966 
Huntsville 
Man preswyl Llundain, Florida 
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig 
Alma mater
  • Prifysgol Auburn
  • Prifysgol Alabama
  • Prifysgol Indiana, Bloomington
  • Prifysgol Indiana
  • Randolph School 
Galwedigaeth person busnes, blogiwr, entrepreneur, Wikimedian, gwyddonydd cyfrifiadurol, ymchwilydd 
Cyflogwr
  • Bomis
  • Wikia 
Prif ddylanwad Ayn Rand, Friedrich Hayek 
Priod Kate Garvey, Pamela Green, Christine Rohan 
Gwobr/au Quadriga, EFF Pioneer Award, Gottlieb Duttweiler Prize, UNESCO Niels Bohr Medal, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Young Global Leaders, Leonardo Award, Gwobr Dan David 
Gwefan http://jimmywales.com 
Llofnod

Ganwyd Wales yn Huntsville, Alabama, lle mynychodd Randolph School, ysgol baratoi i brifysgol. Yn ddiweddarach fe enillodd graddau baglor a meistr mewn cyllid o Brifysgol Auburn ac yna Prifysgol Alabama, yn ôl eu trefn.

Tra yn ysgol raddedigion, fe ddysgodd mewn dwy brifysgol, ond gadawodd cyn cwblhau PhD i gymryd swydd mewn cyllid a gweithiodd yn ddiweddarach fel cyfarwyddwr ymchwil mewn cwmni cyllid yn Chicago. Yn 1996, fe wnaeth e a dau bartner ffurfio Bomis, porth gwe ar gyfer dynion, yn cynnwys adloniant a deunydd i oedolion. Fe fyddai'r cwmni yn ffynhonnell arian cychwynnol ar gyfer y gwyddoniadur am ddim Nupedia (2000–2003) a'i olynydd, Wikipedia.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.