Guy Debord

Athronydd Marcsaidd a gwneuthurwr ffilmiau Ffrengig oedd Guy Debord (28 Rhagfyr 193130 Tachwedd 1994).

Guy Debord
Ganwyd Guy-Ernest Deborde 
28 Rhagfyr 1931 
Paris 
Bu farw 30 Tachwedd 1994  (62 oed)
Achos: anaf balistig 
Bellevue-la-Montagne 
Dinasyddiaeth Ffrainc 
Galwedigaeth gwneuthurwr ffilm, arlunydd, athronydd, cyfarwyddwr ffilm, dylunydd graffig, sgriptiwr, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, hunangofiannydd, cyfieithydd, gweithredydd heddwch 
Priod Alice Becker-Ho 
Llofnod

Ganed ym Mharis, ac yn ei ieuenctid daeth yn gyfeillgar ag artistiaid a deallusion adain-chwith y ddinas. Cynhyrchodd ei ffilm gyntaf, Hurlements en faveur de Sade, yn 1952. Gweithiodd gyda Isidor Isou a Maurice Lamaitre, aelodau'r cymundod artistig L'Internationale lettriste, i wneud celf arbrofol a elwir "gwrth-gelf" a chanddi ei gwreiddiau ym mudiadau Dada a Swrealaeth. Ysgrifennodd nifer o erthyglau a golygodd sawl rhifyn o gylchgawn L'Internationale Situationniste. Cyhoeddodd ei gampwaith, La société du spectacle, yn 1967. Tynnodd ar syniadaeth yr avant-garde ac astudiaethau pensaernïaeth, y sinema, a chynllunio tref yn ogystal â damcaniaeth Marx yn ei ymdriniaeth o'r "sbectacl" fel amlygiad o ymddieithriad a thrin profiad y ddynolryw yn gynwydd. Cyhoeddodd ddilyniant i'r gwaith hwnnw, Commentaires sur la société du spectacle, yn 1988. Bu farw trwy hunanladdiad yn 62 oed.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.