Coronafirws

Grŵp o firysau a all achosi heintiau mewn mamaliaid ac adar yw'r coronafirysau, a ddarganfuwyd yn y 1960au. Mewn bodau dynol, mae'n achosi problemau anadlu, a cheir amrywiadau negis SARS a MERS sy'n beryg bywyd, a mathau eraill sy'n eitha diniwedd ac sy'n debycach i'r ffliw. Mewn gwartheg a moch gall y firws achosi dolur rhydd, tra mewn ieir gall achosi clefyd anadlol. Yn 2020 nid oedd brechlynnau na chyffuriau gwrthfeirysol a oedd yn cael eu cymeradwyo i atal y firws rhag ymledu, na thriniaeth ar gyfer y claf.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol heterotypic synonym, enw cyffredin 
Math firws RNA 
Dynodwyr
Thesawrws y BNCF 56238&Nbsp;
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am yr epidemig cyfoess yn Tsieina, gweler yr erthygl Epidemig Coronafirws 2019–20 yn Wuhan, Tsieina. Am y firws penodol sy'n achosi'r achos hwn, gweler Coronafirws Novel (2019-nCoV).

Mae'r coronafirws yn feirws o fewn yr isdeulu Orthocoronavirinae yn y teulu Coronaviridae, o fewn urdd y Nidovirales. Mae'r coronafirysau'n 'amlennol', ac mae ganddyn nhw positive-sense single-stranded RNA genome a chymesuredd heligal. Hyd y gwyddys, dyma'r firws-RNA mwya: 26 i 32 kbp (kilo base pair).

Mae'r enw 'Coronafirws' yn fenthyciad o'r Saesneg, "coronavirus" sy'n deillio o'r gair Lladin 'corona' sef 'coron' yn Gymraeg, ac sy'n cyfeirio at ymddangosiad nodweddiadol y gronynnau firws (virions): mae ganddyn nhw ymyl sy'n atgoffa rhywun o goron frenhinol neu'r corona solar.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.