Colley Cibber

Actor a rheolwr theatr o Sais a beirdd a dramodydd yn yr iaith Saesneg oedd Colley Cibber (6 Tachwedd 167111 Rhagfyr 1757) sydd yn nodedig fel un o feistri'r gomedi sentimental. Gwasanaethodd yn swydd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 3 Rhagfyr 1730 hyd ei farwolaeth.

Colley Cibber
Ganwyd 6 Tachwedd 1671 
Llundain 
Bu farw 11 Rhagfyr 1757  (86 oed)
Llundain 
Dinasyddiaeth Teyrnas Prydain Fawr 
Alma mater
  • The King's School, Grantham 
Galwedigaeth dramodydd, bardd, ysgrifennwr, actor llwyfan 
Swydd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig 
Tad Caius Gabriel Cibber 
Priod Catherine Cibber 
Plant Theophilus Cibber, Catharine Cibber, Charlotte Charke 

Ymunodd â'r Theatr Frenhinol yn Drury Lane yn 1690, a daeth i'r amlwg fel actor digrif drwy chwarae'r coegyn mewn sawl un o gomedïau'r Adferiad. Ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, Love's Last Shift, yn 1696, a dyma'r enghraifft gyntaf o gomedi sentimental, genre a ddaeth i ddominyddu'r theatr Seisnig am ganrif gyfan. Ysgrifennodd ryw 30 o ddramâu eraill, gan gynnwys She Wou'd and She Wou'd Not (1702), The Careless Husband (1704), a The Nonjuror (1717). O 1710 i 1740, Cibber oedd rheolwr y Theatr Frenhinol.

Er ei lwyddiannau yn y theatr, ffigur hynod o gynhennus oedd Cibber a bu nifer o'i gyfoedion yn ei ystyried yn ddyn haerllug ac yn ddringwr cymdeithasol digywilydd. Bu'n gyff gwawd i sawl beirniad, a fe'i anfarwolwyd yn ffug-arwr y gerdd The Dunciad gan Alexander Pope.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.