Coleg Prifysgol Llundain

Mae Coleg Prifysgol Llundain (Saesneg: University College London neu UCL) yn rhan o Brifysgol Llundain. Dyma'r sefydliad addysg uwch mwyaf yn Llundain a'r sefydliad mwyaf ar gyfer myfyrwyr â gradd yn y Deyrnas Unedig.

Coleg Prifysgol Llundain
Math coleg prifysgol, sefydliad academaidd, sefydliad addysg uwch 
Sefydlwyd
  • 1826 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Prifysgol Llundain 
Lleoliad Bloomsbury, Llundain 
Sir Camden 
Gwlad Lloegr
Cyfesurynnau 51.5248°N 0.1336°W, 51.52456°N 0.13404°W 
Cod post WC1E 6BT 
Sylfaenwyd gan Henry Brougham 

Fe'i sefydlwyd ar 11 Chwefror 1826, yn seiliedig ar syniadau radical yr athronydd Jeremy Bentham. Hon oedd y brifysgol gyntaf yn Lloegr i dderbyn myfrywyr nad oedd yn aelodau o Eglwys Loegr, a'r cyntaf i dderbyn merched. Lleolir ei phrif adeilad, a godwyd i gynlluniau neo-glasurol y pensaer William Wilkins, yn ardal Bloomsbury yng nghanol Llundain.

Mae ysgol gelf y Slade, lle astudiodd Gwen John ac Augustus John ymhlith nifer o arlunwyr eraill, yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain. Fe'i sefydlwyd ym 1871 gyda rhodd gan y cyfreithiwr Felix Slade.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.