Caerwynt

Dinas yn ne Lloegr yw Caerwynt (neu Caer-wynt, Saesneg: Winchester), canolfan weinyddol Hampshire. Mae'n ddinas hanesyddol sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol Caerwynt, a godwyd yn yr 11g ar safle eglwys gynharach. Fel prifddinas teyrnas Sacsonaidd Wessex a safle llys ei brenhinoedd, bu bron mor bwysig â Llundain yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Mae'n gartref yn ogystal i Goleg Caerwynt, ysgol gyhoeddus hynaf Lloegr, a sefydlwyd gan William o Wykeham yn 1382. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 40,000. Saif ar lan afon Itchen. Bu farw'r nofelydd Jane Austen yng Nghaerwynt.

Caerwynt
Math dinas, tref sirol 
Ardal weinyddol Dinas Caerwynt
Poblogaeth 35,200 
Gefeilldref/i Gießen 
Daearyddiaeth
Sir Hampshire
(Sir seremonïol)
Gwlad Lloegr
Yn ffinio gyda Littleton and Harestock 
Cyfesurynnau 51.0633°N 1.3086°W 
Cod OS SU485295 
Cod post SO22, SO23 
This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.