Anwen Jones

Mae Anwen Jones (ganwyd 13 Chwefror 1969) yn Ddirprwy Is-Ganghellor yn Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Aberystwyth, ac yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr.

Anwen Jones
Ganwyd 13 Chwefror 1969 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater

Graddiodd Jones o Brifysgol Bryste gyda BA Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Gymharol Ffrangeg a Saesneg. Aeth Anwen ymlaen i gwblhau MPhil yn Prifysgol Aberystwyth. Ei swydd addysgu gyntaf oedd swydd ddarlithio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ond mae hi wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa fel darlithydd mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi wedi cyhoeddi ar Paul Claudel. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi yn Saesneg ac yn Gymraeg ar theatr genedlaethol yng Nghymru, drama a theatr Ffrengig a theatr gyfoes.

This article is issued from Wikipedia. The text is licensed under Creative Commons - Attribution - Sharealike. Additional terms may apply for the media files.